SL(6)102 - Rheoliadau Addysg (Ffioedd Myfyrwyr, Dyfarndaliadau a Chymorth) (Diwygio) (Cymru) 2021

Cefndir a Diben

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio saith set o reoliadau sy'n ymwneud â chyllid myfyrwyr. Mae'r rheoliadau cyllid myfyrwyr a ddiwygir gan y Rheoliadau hyn yn cynnwys meini prawf cymhwystra sy’n golygu y gall grwpiau penodol fod yn gymwys am gymorth i fyfyrwyr, statws ffioedd cartref a’r capiau ffioedd dysgu.

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio rheoliadau cyllid myfyrwyr fel a ganlyn:

·         Gwladolion Gwyddelig sy’n preswylio yn yr UE cyn astudio yng Nghymru: mae'r diwygiadau'n gwneud darpariaeth ar gyfer gwladolion Gwyddelig sy’n astudio yng Nghymru a oedd yn preswylio yn yr AEE a’r Swistir ar ddiwedd y cyfnod pontio, fel eu bod yn gymwys i gael statws ffioedd cartref a chymorth ffioedd fel bod eu sefyllfa’n gymaradwy â gwladolyn y DU;

·         Cytundeb Ymadael â’r UE, cytundeb gwahanu EFTA yr AEE, a’r cytundeb ar hawliau dinasyddion Swisaidd: mae diwygiadau’n ymwneud â:

o   hawliau’r rheini sy’n gwneud cais hwyr i’r Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE, ac i aelodau o’r teulu yn y dyfodol sydd heb wneud cais eto ond sy’n parhau o fewn y terfyn amser ar gyfer gwneud hynny; a

o   diweddariadau i’r diffiniad o berson â hawliau gwarchodedig er mwyn sicrhau bod y rheoliadau cyllid myfyrwyr yn rhoi amddiffyniadau:

§  i berson, gan gynnwys person sydd wedi cyflwyno cais hwyr, tra bo ei gais yn yr arfaeth ac yn ystod unrhyw apêl yn erbyn gwrthod ei gais; ac

§  i berson sydd o fewn y terfyn amser ar gyfer gwneud cais, gan gynnwys person sy'n ymuno ag aelod o'r teulu yn ystod y tri mis dilynol wedi iddynt gyrraedd y DU; a

·         Chymorth i fyfyrwyr i’r rheini o Diriogaethau Dibynnol ar y Goron: diwygiadau i sicrhau nad yw personau (ac eithrio dinasyddion Gwyddelig penodol) sy'n dod i Gymru o Ynys Manaw ac Ynysoedd y Sianel at ddibenion astudio yn gymwys i gael cymorth (mae'r Memorandwm Esboniadol yn egluro bod hyn yn cywiro canlyniad anfwriadol diwygiadau blaenorol).

Daeth y Rheoliadau hyn i rym ar 31 Rhagfyr 2021.

Gweithdrefn

Negyddol.

Gwnaed y Rheoliadau gan Weinidogion Cymru cyn iddynt gael eu gosod gerbron y Senedd. Gall y Senedd ddirymu’r Rheoliadau o fewn 40 diwrnod (ac eithrio unrhyw ddiwrnodau pan fo’r Senedd: (i) wedi’i diddymu neu (ii) ar doriad am fwy na phedwar diwrnod) i'r dyddiad y cawsant eu gosod gerbron y Senedd.

Materion technegol: craffu

Nodwyd y pwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

1. Rheol Sefydlog 21.2(vi) – ei bod yn ymddangos bod gwaith drafftio'r offeryn neu’r drafft yn ddiffygiol neu ei fod yn methu â bodloni gofynion statudol.

Mae Rheoliad 56 o'r Rheoliadau hyn yn mewnosod paragraff 8BA newydd yn Atodlen 2 i Reoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Graddau Meistr Ôl-raddedig) (Cymru) 2019. Mae paragraff 8BA(2) yn cyfeirio at baragraff 1(5), ond ymddengys fod y cyfeiriad hwnnw'n wallus - mae paragraff 1(5) yn diffinio cwmpas y darpariaethau hawliau dinasyddion ac nid yw'n ymwneud ag a yw person yn cael ei drin fel rhywun sy'n preswylio fel arfer.

Rhinweddau: craffu

Nodwyd y pwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

2. Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd.

Mae'r rhaglith i'r Rheoliadau hyn yn egluro eu bod yn cael eu gwneud drwy arfer y pwerau o dan adrannau 22(2)(a) a 42(6) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998, ymhlith pwerau eraill.

Mae'r Memorandwm Esboniadol yn nodi bod y Rheoliadau hyn hefyd yn cael eu gwneud o dan adran 22(2)(d) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998. Ymddengys fod hyn yn wall. Nid yw'n ymddangos bod y pŵer o dan adran 22(2)(d) yn berthnasol i gwmpas y Rheoliadau hyn.

Gofynnir i Lywodraeth Cymru gadarnhau bod y Memorandwm Esboniadol yn anghywir ac nad oedd yn bwriadu dibynnu ar y pŵer galluogi o dan adran 22(2)(d) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998.

Ymateb Llywodraeth Cymru

Mae angen ymateb gan Lywodraeth Cymru.

Trafodaeth y Pwyllgor

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn yn ei gyfarfod ar 10 Ionawr 2022 ac mae'n cyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd uchod.